Penawd Y Cyrifiad 1891: ‘Roedd agos at un filiwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, gan gynwys 508,036 uniaith Gymraeg (30.4% o boblogaeth Cymru gyfan)
Mae rhai haneswyr yn amau’r rhifau uniaith. Mae’n bosib fod ymwybyddiaeth genedlaethol newydd, a brwdfryder rhai i fanteisio ar y cyfle i dynnu sylw at y Gymraeg, wedi gwyrdroi’r cyfanswm yn uwch na’r gwir. Er nad yw’n gyhuddiad deg yn ôl rhai eraill. Ond ni allwn fod yn hollol sicr o’r ffigyrau, yn arbennig mewn ardaloedd lle ‘roedd cynghorwyr yn galw’n gyhoeddus am i bawb nodi “Cymraeg yn unig” ar y ffurflen.
I raddau mawr ‘roedd ysgolion uniaith Saesneg yn gyfrifol am Seisneigio nifer o ardaloedd Cymru. Ffactor arall o bwys oedd anfodlondeb gyffredinol mewnfudwyr di-Gymraeg i ddysgu’r iaith.
Daeth mwy o fewnfudwyr i Flaenau Gwent nag i unrhyw ardal arall, serch hynny ‘roedd 25% y cwm yn medru’r iaith ym 1891. Ond ‘doedd siaradwyr Cymraeg Sir Fynwy yn ddim ond 14.4% (eto’n well na’r 9% sydd yna heddiw). Cymraeg oedd iaith y mwyafrif ym Mlaenau hyd at ganol y ganrif, cyn i’r diwydiant haern dod i ben ac yna cau drysau nifer o’r capeli Cymraeg.
Ym Mlaenau Gwent gwelwn mai uniaith Saesneg oedd plant mewnfudwyr uniaith Gymraeg hyd yn oed; hynny, mae’n debyg, oherwydd polisїau cyffredinol yr ysgolion i greu delwedd negyddol o’r iaith. Ym marn yr ysgolion ‘doedd yr iaith Gymraeg yn dda i ddim byd.
Hefyd ‘roedd nifer o Gymry Cymraeg y fro eisioes wedi ymadael, a mewnfudwyr di-Gymraeg yn llenwi’r bwlch.
Y Rhyl - 1891: 59% yn siarad Cymraeg (8.5% yn uniaith Gymraeg) (poblogaeth 5759)
Wedi i’r Rhyl Seisneigio’n raddol ers tro’r ganrif, daeth yr ergyd loriol gyda changen newydd y rheilffordd o Ddinbych. Saesneg oedd unig iaith a chyfrwng y rheilffordd.
Meddai E. G. Salisbury wrth iddo agor y rheilffordd: “ I, for one, am not ashamed to say - and I say this boldly - that I shall be delighted to see the Welsh people anglicised".
Ond yr oedd mwy o Gymaeg yn y Rhyl nag yr oedd drws nesaf yn Llanidloes, lle ‘roedd 55.9%
yn medru’r Gymraeg a dim ond 7.7% yn uniaith Gymraeg. Yn sgîl y rheilffordd, a’r diffyg addysg
Gymraeg, daeth y farchnad wlanen a’r gweithwyr di-Gymraeg, a ffynnodd y capeli Saesneg.
Caerdydd: Bu cynnydd enfawr yn nifer trigolion Caerdydd, o 2,000 ym 1801 i 82,761 ym 1881. Ym 1891 ‘roedd Saesneg ym mhob tŷ a theulu bron, yn arbennig ymhlith y gweithwyr proffesiynol a’r dosbarth canol. Roedd Butetown eisioes yn Seisnigaidd iawn. Rhaid edrych yn ôl i’r 1850au i gael mwyafrif o siaradwyr Cymraeg yn y ddinas, erbyn 1891 dim ond 11.2% (1.7% yn uniaith) oedd yn sairad Cymraeg - Mewn cyferbyniad eglur i Morgannwg (49.5% oedd gallu siarad cymraeg, 22% Cymraeg yn unig)
Rhosllannerchrugog (Wrecsam): 90.9% yn siarad Cymraeg (49.3% Cymraeg yn unig); “yn waeth na Merthyr” yn ôl y Llyfrau Gleision.
Sir Ddinbych: 65.3% yn siaradwyr Cymraeg (33.6% Cymraeg yn unig).
Llanfair ym Muallt: Rhannau helaeth o Ddwyrain a De Powys yn fwyfwy Seisnig ers dechrau’r 18fed Ganrif. Dim ond 17.1% yn siarad Cymraeg ym 1891 (0.3% Cymraeg yn unig) - ond yn ardal Buallt roedd 36.1% yn medru’r iaith, sy’n danos y gwahaniaeth rhwng y dref a’r cefn gwlad.
Tregaron: Stori arall oedd hi ar ochrau gorllewinol y mynyddoedd Cambriaidd. Yn Nhregaron ‘roedd 99.1% yn siarad Cymraeg, ac 83.8 % yn uniaith Gymraeg!
Yng Ngheredigion ‘roedd 95% yn siarad Cymraeg (74.5% Cymraeg yn unig), sy’n uwch na ffigyrau Sir Feirionydd i’r gogledd-orllewin.
Trefi ac ardaloedd eraill:
Blaenau Ffestiniog (Meirionydd) - 98.9% yn siarad Cymraeg.
Ardal Pontypridd - 63.5%
“Ferndale” (Rhondda) - 76.1% (37.8% yn unig) yr iaith yn gryf ymysg y glowyr, er bod perchnogion y pwll wedi newid yr enw : rhag ofn fod ceisio llefaru’r gwreiddiol, Glynrhedog, yn achosi anhawster i fewnfudwyr.
Dowlais: 59.6% (20.3% Cymraeg yn unig)
Blaenllechau: 74.8% (45.8% yn unig) Yr iaith yn weddol gryf ar wyneb, ond newidiadau ieithyddol mawr yn datblygu. Ar y cae chwarae ‘roedd plant ysgol yn dechrau defnyddio’r Saesneg yn unig, ac yn y gymuned ‘roedd y Cymry Cymraeg a’r ddi-Gymraeg yn dechrau cymdeithasu ar wahan.
Llwynypia: 94.2% (41.6% Cymraeg yn unig)
Cwm Clydach: 73.1% (43% Cymraeg yn unig)
Cwmaman (Sir Gaerfyrddin): 99.3% (90.7% Cymraeg yn unig)
(Rhaid cofio hyn: Mae’r ffigyrau uniaith Gymraeg yn ddadleuol, yn arbennig mewn rhai llefydd lle bu annog i’r trigolion cryfhau delw’r iaith)
Hey keep posting such good and meaningful articles.
ReplyDelete